Ein Casgliad

Mae Y Cwm yn cynrychioli cartref teuluol Cymreig nodweddiadol ar ddiwedd y 19eg Ganrif.

Mae’r amgueddfa’n gartref i gasgliad o eitemau pob dydd a fyddai wedi bod yn gyfarwydd i Syr Henry Jones yn ystod ei fagwraeth. Roedd rhai o’r gwrthrychau a arddangosir yn perthyn i Syr Henry ei hun, megis y gynau a wisgodd ar gyfer y seremoni i’w urddo’n farchog ym Mhalas Buckingham.

 
Cliciwch yma i weld ein casgliad ar-lein.

Prynwyd yr amgueddfa trwy danysgrifiad cyhoeddus ym 1932 i anrhydeddu Syr Henry Jones ac ysbrydoli eraill i ddilyn ei esiampl o waith caled a chyflawniad.

Mae’r arteffactau a arddangosir yn rhoi cipolwg difyr ar fywyd teuluol yn Oes Fictoria mewn pentref yng Nghymru.